Gwerthusiad Proses o Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru
Click here to read this page in English: Process Evaluation of the Welsh LGBTQ+ Action Plan
Gair am yr astudiaeth
Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru flaenorol y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru. Roedd y Cynllun, a ddaeth i ben yn 2026, yn amlinellu sut yr oedd yn bwriadu gwella bywydau pobl LHDTC+ drwy leihau gwahaniaethu, gwella diogelwch, a helpu pobl i deimlo eu bod yn cael eu cydnabod a'u parchu. Roedd yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel gofal iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, cymunedau a bywyd teuluol, a chyfranogiad mewn diwylliant a chwaraeon. Yn gyffredinol, nod y Cynllun oedd gwneud Cymru’n wlad lle gall pobl LHDTC+ fyw'n agored, yn ddiogel, a heb ofn cael eu trin yn annheg. Mae’r llywodraeth bresennol wedi ymrwymo i weithio gyda phobl sydd â phrofiad byw er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb, gan gynnwys cydraddoldeb LHDTC+.
Comisiynwyd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i gynnal gwerthusiad proses o'r Cynllun. Bydd hwn yn archwilio pa mor effeithiol y mae'r Cynllun Gweithredu wedi'i gyflwyno, beth sy'n gweithio'n dda neu'n llai da, ac a wnaeth wahaniaeth i bobl LHDTC+ yng Nghymru.
Er mwyn archwilio'r meysydd hyn, mae tîm ymchwil NatCen yn cynnal
- Grwpiau ffocws cwmpasu gyda'r rhai sy'n ymwneud â datblygu a chyflwyno'r Cynllun.
- Grwpiau ffocws gyda rhanddeiliaid sy'n ymwneud â chamau gweithredu sy'n deillio o'r Cynllun neu sy'n cael eu heffeithio ganddynt.
- Arolwg o bobl LHDTC+ sy'n byw yng Nghymru.
- Cyfweliadau â phobl LHDTC+ i archwilio effeithiau'r Cynllun a materion sy'n codi o rannau eraill o'r gwerthusiad.
- Sesiynau adborth/atgyfnerthu gydag unigolion a sefydliadau LHDTC+
Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?
Mae cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n ymwneud â'r prosiect ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol.
Am beth mae’r arolwg hwn?
Yn 2023, cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (y Cynllun) gan Lywodraeth Lafur Cymru ar y pryd gyda'r nod o wella bywydau pobl LHDTC+ yng Nghymru. Nod yr arolwg hwn yw casglu gwybodaeth am brofiadau, barn ac anghenion pobl LHDTC+ sy'n 18 oed neu'n hŷn, er mwyn nodi lle cafwyd cynnydd gyda’r materion sydd wedi eu cynnwys yn y Cynllun, lle mae angen gwneud rhagor o gynnydd, a lle gallai fod cyfleoedd i wella darpariaeth gwasanaethau, cymorth a gwybodaeth.
Am ba bynciau fyddaf i’n cael fy holi?
Mae'r pynciau dan sylw’n cynnwys:
- A ydych chi'n ystyried bod Cymru’n wlad sy'n croesawu pobl LHDTC+.
- Ymwybyddiaeth o wasanaethau, cymorth a gwybodaeth LHDTC+, a’r defnydd a wneir ohonynt.
- Ymwybyddiaeth o wasanaethau LHDTC+ i bobl ifanc a’r defnydd a wneir ohonynt.
- Profiadau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cymryd rhan mewn diwylliant a chwaraeon wedi’u trefnu.
- Ymwybyddiaeth o gymorth a defnyddio gwybodaeth am gydnabod rhywedd.
- Ymwybyddiaeth o gymorth i gyn-filwyr LHDTC+.
- Profiadau o droseddau casineb ac adrodd amdanynt.
- Profiadau o arferion trawsnewid a chymorth cysylltiedig.
- Gwybodaeth ddemograffig fel eich cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, oedran, ethnigrwydd, p'un a oes gennych anabledd, ac ati.
Nid oes angen profiad uniongyrchol arnoch chi o'r holl bynciau er mwyn cymryd rhan.
Rydym yn deall bod rhai cwestiynau yn yr arolwg yn ymdrin â phynciau anodd neu bynciau sy’n peri gofid, fel troseddau casineb, arferion trawsnewid, gwahaniaethu neu eithrio. Nid oes rhaid i chi ateb unrhyw gwestiynau sy’n achosi gofid i chi, a gallwch symud ymlaen i'r cwestiwn nesaf rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn ei ateb. Mae gwybodaeth am sefydliadau cymorth ar gael ar [insert link to Welsh SUPPORT PAGE].
Mae rhai cwestiynau’n casglu data am gategori arbennig fel cyfeiriadedd rhywiol ac ethnigrwydd. Mae cwestiynau eraill yn cynnwys blychau testun rhydd dewisol lle gallwch rannu mwy o fanylion os dymunwch. Gallwch hepgor unrhyw gwestiwn nad ydych chi'n dymuno ei ateb.
Pwy sy’n gwneud yr ymchwil?
Comisiynwyd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o'r Cynllun, ac mae'r arolwg hwn yn rhan ohono. Mae NatCen yn sefydliad ymchwil gymdeithasol annibynnol, dielw ac uchel ei barch. Mae'n dylunio, yn cynnal ac yn dadansoddi astudiaethau ymchwil ym meysydd polisi cymdeithasol a chyhoeddus.
Y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol
250 City Road, Llundain,
EC1V 2AB
Mae NatCen hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â'r sefydliad arolygon Dynata i gynnal yr arolwg, ac â'r Consortiwm LHDT i wneud pobl yn ymwybodol ohono.
Oes raid i mi gymryd rhan?
Na. Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Gallwch ddewis peidio ag ateb unrhyw gwestiwn, a gallwch roi'r gorau i'r arolwg unrhyw bryd heb roi rheswm.
Beth fydd gofyn i mi ei wneud?
Bydd gofyn i chi gwblhau'r arolwg ar-lein.
Os na allwch gwblhau'r arolwg yn y ffordd hon, cysylltwch â'r tîm ymchwil yn ActionPlanResearch@natcen.ac.uk neu ar y rhif ffôn rhad ac am ddim 0808 281 9514 i drafod opsiynau eraill
Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?
Dylai'r arolwg gymryd rhwng 10 ac 20 munud. Nid oes rhaid i chi gwblhau'r arolwg cyfan mewn un sesiwn. Bydd unrhyw beth a ychwanegwch i’r arolwg yn cael ei gadw a gallwch ail ddechrau lle’r oeddech wedi stopio pan fyddwch yn mewngofnodi y tro nesaf.
A oes unrhyw fanteision neu risgiau?
Gall eich barn a'ch profiadau helpu i ddeall a oedd Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru’n adlewyrchu anghenion pobl LHDTC+ sy'n byw yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd â nifer o wahanol hunaniaethau (e.e. pobl LHDTC+ anabl, pobl hŷn LHDTC+, cyn-filwyr LHDTC+, pobl LHDTC+ o leiafrifoedd ethnig, ac ati). Gall eich ymatebion hefyd helpu i lunio polisïau Llywodraeth Cymru.
Os daethoch i wybod am yr arolwg drwy NatCen, gwefan Llywodraeth Cymru, neu'r Consortiwm LHDT, bydd gennych gyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth dynnu enw gyda gwobr o £200.
Nid oes unrhyw risgiau uniongyrchol o ganlyniad i gymryd rhan, ond mae rhai cwestiynau'n ymwneud â phynciau sensitif (a ddisgrifiwyd uchod), ac mae rhai cwestiynau'n casglu data am gategori arbennig fel cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd. Gallwch anwybyddu unrhyw gwestiwn nad ydych am ei ateb.
Ewch i'r dudalen gymorth i weld dolenni a rhifau ffôn ar gyfer sefydliadau cymorth yng Nghymru a gweddill y DU: Gwerthusiad Proses o Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Cefnogaeth.
Y posibilrwydd o gymryd rhan mewn cyfweliad dilynol ar ôl yr arolwg
Yn rhan o'r gwaith o werthuso’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru, rydym hefyd yn chwilio am bobl i gymryd rhan mewn cyfweliadau am eu profiadau. Bydd y cyfweliadau hyn yn digwydd rhwng o fis lonawr if fis Mawrth 2027. Er mwyn sicrhau amrywiaeth ymhlith y cyfranogwyr, ni fydd yn bosibl cynnwys pawb sydd eisiau cymryd rhan. Fodd bynnag, os ydych yn gymwys i gymryd rhan, byddwch yn derbyn taleb Love2Shop gwerth £30 i ddiolch i chi am eich amser.
Os hoffech gymryd rhan mewn cyfweliad neu gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r tîm ymchwil yn NatCen drwy e-bostio ActionPlanResearch@natcen.ac.uk neu ffonio'r rhif rhadffôn 0808 281 9514.
Sut bydd fy nata’n cael ei ddefnyddio?
Bydd eich cyfranogiad mewn unrhyw weithgareddau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn yn aros yn gyfrinachol. Ni fydd NatCen yn dweud wrth Lywodraeth Cymru eich bod wedi cymryd rhan.
Bydd data a gesglir o’r arolwg yn cael ei droi’n ddienw, ei ddadansoddi a’i grynhoi gan NatCen mewn adroddiad a rennir â Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi. Dyma y bydd hyn yn ei olygu:
- Ni fydd modd eich adnabod mewn unrhyw adroddiad neu gyhoeddiad.
- Bydd y canlyniadau'n cael eu cyfuno ag ymatebion cyfranogwyr eraill.
- Bydd ymatebion testun agored yn cael eu troi’n ddienw cyn eu dadansoddi.
Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu fy nata?
Yr enw ar y sail gyfreithiol ar gyfer casglu eich data yw “tasg gyhoeddus.” Mae angen eich gwybodaeth ar NatCen i gyflawni tasg sydd o fudd i’r cyhoedd neu sy’n rhan o waith swyddogol Llywodraeth Cymru.
Bydd data o’r arolwg yn cael ei drin yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR) a’i drin fel y mae wedi’i amlinellu yn: Gwerthusiad y Cynllun Gweithredu LHDTC+.
Pwy yw NatCen?
Sefydliad ymchwil cymdeithasol annibynnol yw NatCen. Mae'n dylunio, cynnal, a dadansoddi astudiaethau ymchwil ym meysydd polisi cymdeithasol a chyhoeddus. Gallwch ddarganfod mwy am NatCen ar www.natcen.ac.uk.
Y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol
250 City Road, Llundain,
EC1V 2AB
Pwy yw Dynata?
Sefydliad ymchwil yw Dynata sy'n cynnal arolygon a dadansoddi data. Gallwch ddarganfod mwy am Dynata yn https://www.dynata.com/
Pwy yw’r Consortiwm LHDT?
Y Consortiwm yw'r rhwydwaith mwyaf o grwpiau a sefydliadau LHDT+ yn y DU. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Consortiwm yn https://www.consortium.LHDT/
Gyda phwy ddylwn i gysylltu i gael rhagor o wybodaeth?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach cyn i chi benderfynu cymryd rhan, cysylltwch â thîm ymchwil NatCen yn ActionPlanResearch@natcen.ac.uk neu ar y Rhadffôn 0808 281 9514.