Gwerthusiad Proses o Gynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru: Cefnogaeth/Process Evaluation of the Welsh LGBTQ+ Action Plan: Support

Click here to read this page in English: Process Evaluation of the Welsh LGBTQ+ Action Plan: Support

Rydym yn ymwybodol y gallai’r cwestiynau yn yr arolwg godi pynciau sy’n effeithio arnoch chi. Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion cysylltu sefydliadau sy'n darparu cymorth a chyngor.

Er bod rhai rhifau ffôn yn rhad ac am ddim, mae eraill yn costio mwy na galwad lleol o rai llinellau tir a ffonau symudol. Os oes rhif rhadffôn ar gael, mae hyn wedi’i nodi.

Gwahardd Arferion Trawsnewid 

Llinell gymorth bwrpasol am arferion trawsnewid a redir gan staff LHDTC+ profiadol. Mae’r llinell gymorth yn agored i’r holl bobl LHDTC+ yn y DU sydd wedi profi arferion trawsnewid, neu sy’n meddwl y gallent fod mewn perygl. Rhedir y gwasanaeth gan elusen gwrth-gamdriniaeth LHDTC+ o’r enw Galop. Mae'r llinell gymorth ar agor 10:00-16:00, o ddydd Llun i ddydd Gwener 

Rhadffôn: 0800 130 3335

E-bost: CThelp@galop.org.uk.

Gwefan: Ban Conversion Therapy 

Childline

Mae Childline yn wasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim i unrhyw un o dan 19 oed yn y DU siarad am unrhyw broblem y maent yn mynd drwyddi.

Rhadffôn: 0800 1111. Efallai na fydd y cwnselydd yn siarad Cymraeg, ond os byddwch yn dweud wrthynt yn Saesneg yr hoffech siarad â chwnselydd Cymraeg, byddent yn gallu gweld a oes rhywun ar gael.

E-bost: Gallwch anfon e-bost at gwnselydd Childline ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif.

Sgwrs 1-2-1: Gallwch chi ddechrau sgwrs gyda chynghorydd ar ôl cofrestru ar gyfer cyfrif yn y fan yma, Sgwrs 1 i 1 â chynghorydd | Childline

Gwefan: Childline | Gwasanaeth cwnsela am ddim i blant a phobl ifanc | Childline 

Ymladd â Balchder 

Mae Fighting With Pride yn cefnogi iechyd a lles cyn-filwyr LHDTC+, personél LHDTC+ y lluoedd arfog a’u teuluoedd.

Ffôn: 0203 981 3810 

Ffurflen we: Cysylltwch

Gwefan: Fighting With Pride: Elusen LHDTC+ y Lluoedd Arfog

Galop 

Mae Galop yn cefnogi pobl LHDT+ sy’n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol, troseddau casineb, arferion trawsnewid, cam-drin ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, a mathau eraill o gam-drin.

Rhadffôn: 0800 999 5428. 

E-bost: help@galop.org.uk.   

Gwefan: Llinellau cymorth – Galop, yr elusen gwrth-gamdriniaeth LHDT+ - Galop

Llinell Gymorth LHDT+ Cymru 

Mae Llinell Gymorth LHDT+ Cymru’n cynnig gwasanaeth cwnsela i bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Traws, Rhyngrywiol, Cefnogwyr a theuluoedd yng Nghymru. 

Rhadffôn: 0800 917 9996

E-bost: Sam@LGBTCymru.org.uk  

Gwefan: Ynghylch Llinell Gymorth LHDT+ Cymru 

Cymorth LHDTC+ gan Shelter Cymru

Mae Shelter yn helpu pobl ledled Cymru drwy gynnig cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim ynglŷn â thai.

Mae llawer o’u cyngor yr un fath waeth beth fo cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd y bobl, ond mae rhai meysydd sy’n effeithio ar bobl yn y gymuned LHDTC+ yn fwy nag eraill. Gallwch edrych ar eu gwe-dudalen neu gael gafael ar eu cefnogaeth gyffredinol.

Rhadffôn: 08000 495 495 (ar agor 9am – 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)

Sgwrs ar-lein: Sgwrs ar-lein - Shelter Cymru

Dewch o hyd i wasanaeth lleol: Cyngor yn lleol i chi - Shelter Cymru

Gwefan: LHDTC+ - Shelter Cymru 

Byw Heb Ofn

Gall Byw Heb Ofn roi cymorth a chyngor i unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig neu drais rhywiol, unrhyw un sy’n adnabod rhywun sydd angen cymorth, ac ymarferwyr sy’n ceisio cyngor proffesiynol. Croesewir galwadau i’w llinell gymorth yn Gymraeg, ac mae’r holl wasanaethau ar agor 24/7.

Rhadffôn: 0808 80 10 800 

Testun: 07860077333 

E-bost: info@livefearfreehelpline.wales  

Sgwrs ar-lein: Cysylltwch â Byw Hen Ofn am Ddim | LLYW.Cymru 

Cymorth digartrefedd Llamau LHDTC+ 

Mae Llamau yn elusen digartrefedd sy’n cydnabod profiadau unigryw unigolion LHDTC+ ac yn darparu cymorth wedi’i deilwra.

Rhadffôn (Llinell Gymorth i Bobl Ifanc Ddigartref): 08000 495 495 

Gwefan: LHDTC+ - Llamau 

Mind Cymru

Mae Mind Cymru’n sicrhau bod gan bawb yng Nghymru fynediad at y wybodaeth, y cymorth a’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt. Mae gan Mind nifer o linellau cymorth gwahanol, sydd wedi’u rhestru isod. 

Llinell wybodaeth: 0300 123 3393

Llinell budd-daliadau lles: 0300 222 5782

Llinell gyfreithiol: 0300 466 6463

Llinell gymorth: 0300 102 1234 

Dewch o hyd i'ch gwasanaeth lleol: Grwpiau Lleol Mind yng Nghymru | Mind Cymru | Amdanom Ni | Mind 

Pride Sports Cymru 

Mae Pride Sports Cymru’n gweithio i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol ar gyfer unigolion LGBTIQ+ mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol ledled Cymru. Mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynhwysiant, cyfranogiad a pherthyn. 

Gwefan: Pride Sports Cymru | Datblygiad a Chynhwysiant Chwaraeon LGBTIQ+ Sports i Gymru 

Samariaid 

Mae'r Samariaid yn elusen sy'n atal hunanladdiad trwy bŵer y cysylltiad dynol. Bydd eu gwirfoddolwyr hyfforddedig yn gwrando bob amser ac maen nhw ar gael 24/7.

Rhadffôn: 116 123

Rhadffôn Cymraeg: 0808 164 0123

Dewch o hyd i'ch cangen leol: Dewch o hyd i’ch cangen agosaf o’r Samariaid | Canfyddwr Cangen | Samariaid 

Stonewall Cymru  

Mae Stonewall Cymru wedi chwarae rhan allweddol o ran datblygu cydraddoldeb LHDTC+ yng Nghymru trwy ymgysylltu â’r gymuned, materion cyhoeddus a rhaglenni’r gweithle. Mae ganddyn nhw hefyd ganolfan adnoddau ar eu gwefan, lle gallwch chi ddod o hyd i adnoddau a gwybodaeth am gynhwysiant LHDTC+.

Gwefan: Stonewall Cymru | Stonewall UK

Trans Aid Cymru 

Sefydliad cydgymorth yw Trans Aid Cymru, sy’n helpu pobl drawsrywiol, anneuaidd a rhyngrywiol ledled Cymru.

E-bost: hello@transaid.cymru  

Gwefan: Trans Aid Cymru – Sefydliad cydgymorth yn helpu pobl drawsrywiol, anneuaidd a rhyngrywiol ledled Cymru 

Umbrella Cymru 

Mae Umbrella yn arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth rhywedd a rhywiol. Trwy eu gwefan, gallwch ofyn am gymorth i chi'ch hun neu i rywun rydych chi'n ei adnabod.

Ffôn: 0300 302 3670

E-bost: support@umbrellacymru.co.uk

Neges destun: 07520645700

Gofyn am gymorth: Gofyn am Gymorth – Umbrella Cymru

Y wefan: Umbrella Cymru – Arbenigwyr Cymorth ar gyfer Amrywiaeth Rhywedd a Rhywiol yng Nghymru

Cymorth i Ddioddefwyr Cymru 

Mae Cymorth i Ddioddefwyr neu Victim Support yn elusen annibynnol sy'n ymroddedig i gefnogi pobl sydd wedi dioddef troseddau a digwyddiadau trawmatig yng Nghymru a Lloegr. Gall unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan drosedd yng Nghymru neu yn Lloegr gysylltu â nhw i gael cymorth cyfrinachol am ddim. Mae eu llinellau ffôn a'u gwasanaeth sgwrsio ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Rhif rhadffôn: 08 08 16 89 111

Sgwrsio ar-lein: Sgwrsio byw – Cymorth i Ddioddefwyr

Sgwrsio ar-lein Cymraeg: Sgwrsio byw – Cymorth i Ddioddefwyr  

Dod o hyd i'ch gwasanaeth lleol: Cymru – Cymorth i Ddioddefwyr

Gwefan: Hafan – Cymorth i Ddioddefwyr 

Gwasanaeth Ieuenctid LHDT Viva

Mae Viva yn darparu grwpiau ieuenctid a chymorth i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sy'n uniaethu fel pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, neu draws, yn ogystal â'r rhai nad ydynt yn siŵr eto.

Ffôn: 01745 357941

E-bost: info@vivalgbt.co.uk  

Gwefan: Viva LHDT – LHDT Ieuenctid Cymru 

Canolfan Cymorth Casineb Cymru

Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru’n darparu adnoddau a chymorth i'r rhai sydd wedi profi neu weld trosedd casineb. Gallwch hefyd adrodd am drosedd drwy eu gwefan.  

Ffôn: 0300 3031 982

E-bost: Hate.CrimeWales@victimsupport.org.uk

Sgwrs ar-lein: Sgwrsio Byw – Cymorth i Ddioddefwyr

Gwefan: Trosedd Casineb Cymru – Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Adrodd a Chymorth â Throseddau Casineb yn cynnig cymorth a dewisiadau adrodd cyfrinachol am ddim i ddioddefwyr Troseddau Casineb ledled Cymru. 

Gwasanaeth Rhywedd Cymru 

Sefydlwyd Gwasanaeth Rhywedd Cymru (WGS) yn 2019 fel gwasanaeth asesiad a diagnosis ar gyfer anghyfathiant rhywedd/dysfforia rhywedd i oedolion sy'n byw yng Nghymru.

Ffôn: 029 2183 6612

E-bost: cav.wgs_enquiries@wales.nhs.uk

Gwefan: Gwasanaeth Rhywedd Cymru – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro