Hysbysiad Preifatrwydd – Gwerthusiad y Cynllun Gweithredu LHDTC+/Process Evaluation of the Welsh LGBTQ+ Action Plan: Privacy notice

Click here to read this page in English:  Process Evaluation of the Welsh LGBTQ+ Action Plan: Privacy notice

Cefndir  

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i gynnal astudiaeth. Mae'r astudiaeth hon yn werthusiad o'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, a gyhoeddwyd o dan y Llywodraeth Cymru flaenorol. Nod y gwerthusiad hwn yw gweld pan mor effeithiol mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ wedi bod, drwy edrych ar:  

  • faint o wybodaeth a dealltwriaeth sydd gan wahanol grwpiau am y Cynllun Gweithredu,
  • unrhyw fylchau neu heriau wrth gyflawni'r Cynllun Gweithredu, a
  • cipolwg ar brofiadau pobl LHDTC+. 

Bydd y gwerthusiad hefyd yn awgrymu ffyrdd o gefnogi cydraddoldeb i bobl LHDTC+ yng Nghymru yn y dyfodol.  

Yn rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd NatCen yn casglu gwybodaeth drwy arolygon a chyfweliadau â phobl LHDTC+ yng Nghymru. Bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg:

  • mewn e-bost gan y sefydliad arolygon Dynata,
  • drwy glicio ar y ddolen i'r arolwg ar wefan Llywodraeth Cymru, neu
  • drwy i’r Consortiwm LHDT gysylltu â nhw. 

Ar ddiwedd yr arolwg, bydd NatCen yn gofyn i gyfranogwyr nodi a oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad a/neu gystadleuaeth dynnu enw gyda gwobr. Nid yw hyn yn berthnasol i gyfranogwyr o banel Dynata. Dydyn nhw ddim yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth, nac i gymryd rhan mewn cyfweliadau neu ymchwil pellach. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut mae Dynata yn prosesu data eu panel, cliciwch yma.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n penderfynu 'sut' a 'pham' mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio. NatCen yw'r prosesydd data ar gyfer y prosiect hwn. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n gyfrifol am ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a'i chadw'n ddiogel. Bydd NatCen yn gwneud yr holl ddata’n ddienw cyn iddyn nhw rannu canlyniadau â Llywodraeth Cymru. Byddant hefyd yn dileu unrhyw ddata personol a ddarparwyd o'r arolwg a'r cyfweliadau o fewn 6 wythnos i ddiwedd y gwerthusiad. 

Yr unig eithriad i hyn yw os ydych yn cytuno y cawn ni gysylltu â chi eto ar gyfer arolwg dilynol o fewn y 5 mlynedd nesaf. Yn yr achos hwn, bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw a bydd yr holl wybodaeth bersonol arall yn cael ei dileu. Bydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei ddileu ar ôl 5 mlynedd. Nid yw hyn yn berthnasol i gyfranogwyr panel Dynata.

Bydd y wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd yn cael ei chynnwys hefyd mewn cyhoeddiadau eraill gan NatCen a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol; nid oes rhaid i chi gymryd rhan. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau’n bwysig a byddant yn helpu i hysbysu polisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt yn NatCen ar gyfer yr ymchwil hwn yw Martin Mitchell.

Cyfeiriad e-bost: Martin.Mitchell@natcen.ac.uk

Pa ddata personol ydyn ni’n ei ddal ac o ble ydyn ni’n cael y wybodaeth hon?  

Data personol yw unrhyw wybodaeth am berson sy'n gallu dangos pwy ydyn nhw. Mae modd adnabod unigolion yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy eu nodweddion neu wybodaeth arall. Er enghraifft, gallai hyn fod yn enw, rhif adnabod, neu gyfeiriad IP cyfrifiadur, sy'n cael eu galw'n ddynodwyr uniongyrchol. Mae dynodwr anuniongyrchol yn gallu bod yn un neu fwy o ffactorau ffisegol, diwylliannol neu gymdeithasol. Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (UK GDPR) yn diffinio data personol fel "unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy, y gellir eu hadnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr". 

Os ydych wedi derbyn dolen i'r arolwg drwy e-bost, bydd wedi dod o un o'r lleoedd canlynol: 

Dynata:

  • Fe wnaethoch chi ddarparu eich manylion i Dynata a chytuno i dderbyn gwybodaeth am arolygon fel hwn yn rhan o banel. Dewisir aelodau'r panel yn seiliedig ar eich gwybodaeth bersonol.

Y Consortiwm LHDT:

  • Mae’r Consortiwm LHDT wedi eich nodi chi fel prif gyswllt un o'u haelod-sefydliadau. Eich cysylltiad ag un o'r aelod-sefydliadau hyn fydd y rheswm pam y cysylltwyd â chi.

NatCen:

  • Cafodd NatCen eich manylion gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru oherwydd eich bod naill ai'n aelod o'r Grŵp Cynghori blaenorol ar gyfer y Cynllun Gweithredu LHDTC+, neu'n rhanddeiliad allweddol arall i’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ blaenorol.

Llywodraeth Cymru:

  • Mae eich manylion gan Lywodraeth Cymru am eich bod naill ai'n aelod o'r Grŵp Cynghori blaenorol ar y Cynllun Gweithredu LHDTC+, neu'n rhanddeiliad allweddol arall i’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ blaenorol. Efallai eich bod hefyd wedi dod o hyd i'r ddolen i'r arolwg ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os cysylltwyd â chi drwy Dynata, ni fydd gan NatCen eich enw na'ch cyfeiriad e-bost.  

Os cysylltwyd â chi drwy'r Consortiwm LHDT, ni fydd gan NatCen eich enw na'ch cyfeiriad e-bost oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i'r Consortiwm LHDT eu rhoi nhw iddynt. Ni fydd Llywodraeth Cymru’n derbyn eich enw, eich e-bost na gwybodaeth bersonol arall oni bai eich bod yn dweud eich bod yn hapus i gymryd rhan mewn ymchwil dilynol yn y dyfodol. Dim ond ar gyfer y gwerthusiad hwn y bydd NatCen yn defnyddio eich enw a'ch cyfeiriad e-bost.

Nid oes angen mwy o ddata personol gennych ar gyfer yr ymchwil hwn, ond mae'r arolwg yn gofyn am wybodaeth ddienw am eich: 

  • Oedran
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Rhyw
  • Rhyngryw (intersex)
  • Hunaniaeth rhywedd
  • Ethnigrwydd
  • Cyflwr iechyd hirdymor
  • Cyfyngiad ar weithgarwch
  • Awdurdod lleol 

Cyn rhannu canfyddiadau â Llywodraeth Cymru, bydd NatCen yn tynnu’r wybodaeth amdanoch a allai ddangos pwy ydych chi. Nid oes rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth hon, ond mae'n ein helpu ni i wneud yn siŵr ein bod yn cynrychioli amrywiaeth eang o bobl.

Os byddwch chi’n rhoi unrhyw ddata personol arall i ni yn rhan o'r ymchwil, ni fydd yr adroddiad(au) a gyhoeddir yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i'ch adnabod chi.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol; nid oes rhaid i chi gymryd rhan. Os nad ydych eisiau cymryd rhan neu dderbyn nodiadau atgoffa, anfonwch e-bost atom neu atebwch y gwahoddiad. Yna byddwn yn dileu eich manylion cyswllt. Gallwch dynnu'n ôl o'r astudiaeth a gofyn am ddileu unrhyw wybodaeth amdanoch y gellir ei defnyddio i'ch adnabod. Fodd bynnag, unwaith y bydd eich ymatebion wedi'u gwneud yn ddienw a'u cyfuno ag ymatebion cyfranogwyr eraill at ddibenion dadansoddi ac adrodd, efallai na fydd hi’n bosibl mwyach i adnabod a dileu cyfraniadau unigol.

Ar ddiwedd yr arolwg, byddwn yn gofyn i chi a fyddech chi’n hapus i gael eich cyfweld. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfweliad, byddwn yn gofyn i chi am eich enw, eich cyfeiriad e-bost neu ffordd arall o gysylltu â chi, fel rhif ffôn. Yr unig reswm y bydd y rhain yn cael eu cysylltu â'ch ymatebion yw fel bod NatCen yn gallu adnabod unigolion i'w cyfweld. Dim ond ar gyfer y gwerthusiad hwn y bydd NatCen yn defnyddio eich enw, eich cyfeiriad e-bost neu eich rhif ffôn. Yna bydd NatCen yn cysylltu â chi drwy e-bost i drefnu cyfweliad. Os byddwch yn newid eich meddwl ynglŷn â chymryd rhan, gallwch roi gwybod i ni. Nid yw hyn yn berthnasol i gyfranogwyr panel Dynata.  

Efallai y byddwn eisiau gwneud recordiad sain o’r cyfweliadau. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd i recordio'r cyfweliad cyn iddo ddechrau. Gallwch ddweud wrthym os nad ydych eisiau i'ch cyfweliad gael ei recordio. Os byddwn yn recordio'r cyfweliad, bydd gennym: 

  • recordiad sain o bopeth a ddywedoch chi 

Bydd y cyfweliadau'n cael eu recordio gan ddefnyddio Microsoft Teams a'u trawsgrifio gan ddefnyddio Microsoft Word. Ni fydd eich enw’n cael ei gysylltu â'r trawsgrifiad. Ni ddefnyddir unrhyw wybodaeth y gellir eich adnabod drwyddi, na chyfuniadau o wybodaeth y gellir eich adnabod drwyddynt, yn yr adroddiad. Yn ystod neu ar ôl y cyfweliad, efallai y byddwn yn gwneud nodiadau. Ni fyddwn yn nodi unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch yn y nodiadau hyn. 

Os oes gennych gwestiwn neu gŵyn na allwn ni eu hateb, byddwn yn ei anfon at y person fydd yn gallu helpu. Yna, byddwn yn ei ddileu o wybodaeth ein prosiect.  

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data? 

Mae gan GDPR y DU reolau ynglŷn â sut yr ydym yn casglu, defnyddio, rhannu a chadw eich gwybodaeth bersonol. Y sail gyfreithiol ar gyfer hyn yw ein "tasg gyhoeddus". Ystyr hyn yw ein bod yn gallu defnyddio eich data personol er mwyn gwneud y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae peth o'r wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani’n "ddata categori arbennig". Gwybodaeth amdanoch chi yw hon sydd â mesurau diogelu ychwanegol oherwydd ei bod yn sensitif. Yn yr achos hwn, gwybodaeth am eich cyfeiriadedd rhywiol, eich ethnigrwydd a'ch iechyd ydyw. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at "ddibenion ystadegol neu ymchwil".

Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Eich dewis chi yw cymryd rhan yn yr ymchwil hwn, ac mae gennych hawl i newid eich meddwl.

Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru. Maen nhw’n ein helpu i gasglu gwybodaeth newydd ac yn dangos a yw blaenoriaethau'r llywodraeth yn cael eu cyflawni, a sut maen nhw’n cael eu cyflawni.

Gallai'r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn yr ymchwil hwn gael ei defnyddio i: 

  • Ddeall a yw’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ yn cyflawni ei gamau gweithredu.
  • Deall sut y gallai Cynllun Gweithredu LHDTC+ posibl yn y dyfodol gael ei addasu er mwyn cyrraedd ei nodau yn well.
  • Sefydlu rhywfaint o ddata sylfaenol y gellir ei ddefnyddio fel pwynt cymharu ar gyfer unrhyw ddata a gesglir yn y dyfodol. Gallai hyn hysbysu unrhyw werthusiad effaith yn y dyfodol o Gynllun Gweithredu LHDTC+.   

Pa mor ddiogel yw eich data personol? 

Bydd y wybodaeth a rowch i NatCen yn cael ei storio ar weinydd diogel bob amser. Dim ond nifer fach o bobl sy'n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn gallu ei gweld.  

Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd NatCen yn defnyddio'r data hwn. Mae gan NatCen ardystiad Cyber ​​Essentials Plus ac mae hefyd wedi'i ardystio i safon ISO 27001. Mae hyn yn golygu eu bod wedi dangos bod eu systemau cyfrifiadurol yn dilyn set o reolau i gadw gwybodaeth yn ddiogel.

Os cawsoch eich cysylltu drwy Dynata, a/neu os oes gennych ddata sy'n cael ei storio gan Dynata, gallwch fod yn sicr bod Dynata hefyd yn dilyn gweithdrefnau sicrhau ansawdd safonol sy'n cydymffurfio â GDPR y DU, yn cynnwys ardystiad ISO 27001. Decipher yw'r platfform sgriptio ar gyfer yr arolwg. Bydd data'n cael ei gasglu gan Dynata ac yn cael ei drosglwyddo i NatCen yn ddiogel, gan ddefnyddio SharePoint.

Mae gan NatCen weithdrefnau ar gyfer unrhyw achosion honedig o dorri diogelwch data. Os bydd tor-diogelwch honedig yn digwydd, bydd NatCen yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. Lle bo angen, bydd Llywodraeth Cymru’n rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a'r unigolion sydd wedi’u heffeithio.

Bydd NatCen yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd ganddynt i ysgrifennu adroddiad. Byddwch yn gallu dod o hyd i'r adroddiad hwn ar dudalen ystadegau ac ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Gallai gynnwys pethau a ysgrifennwyd gennych yn yr arolwg neu a ddywedwyd gennych mewn cyfweliad, ond ni fydd unrhyw un yn gwybod mai chi a'i dywedodd. Ni fydd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw wybodaeth a allai gael ei defnyddio i'ch adnabod. 

Am faint o amser ydyn ni’n cadw eich data personol?  

Bydd NatCen yn cadw eich data personol yn ystod cyfnod y contract. Bydd yn dileu unrhyw ddata personol na chafodd ei dynnu eisoes yn ystod y broses drawsgrifio o fewn 6 wythnos i ddiwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni gysylltu â chi eto. Nid yw hyn yn berthnasol i gyfranogwyr panel Dynata.

Hawliau unigol  

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau yn ymwneud â’r wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych yn rhan o'r astudiaeth hon. Yn benodol, mae gennych yr hawl i:

  • ofyn am gopi o'ch data eich hun
  • gofyn i ni newid gwybodaeth sy'n anghywir
  • gofyn i ni roi'r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth (mewn rhai achosion)
  • gofyn i'ch data gael ei ddileu (mewn rhai achosion)
  • gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio neu'n diogelu eich gwybodaeth 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yw ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. Gellir cysylltu â nhw yn:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF.

Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth 

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a ddarparwyd gennych yn rhan o'r astudiaeth hon. Gallwch hefyd gysylltu â ni i arfer eich hawliau o dan GDPR y DU. Yn Llywodraeth Cymru, cysylltwch â:

Enw: Hannah Bayfield

Cyfeiriad e-bost: Hannah.Bayfield@gov.wales  

Rhif ffôn: 03000 255595

 

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales.