Gwerthuso Isafbris am Alcohol: Barn Manwerthwyr

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i gynnal ymchwil â manwerthwyr i ddeall eu canfyddiadau o weithrediad ac effaith cyflwyno isafbris am alcohol.  Nod yr  ymchwil hon yw casglu adborth oddi wrth fanwerthwyr ar weithrediad ac effaith cyflwyno'r ddeddfwriaeth ar eu busnesau a'u cwsmeriaid.  Bydd yr ymchwil hefyd yn edrych ar effeithiau ar siopa trawsffiniol. Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd NatCen yn casglu gwybodaeth drwy gyfweliadau.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd y data ar gyfer yr ymchwil. Er hynny, bydd NatCen yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r cyfweliadau, ac yn tynnu enwau o'r data amrwd, cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth  a  gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac mewn cyhoeddiadau eraill o bosibl gan NatCen a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gyfan gwbl wirfoddol. Er hynny, mae eich barn a'ch profiadau'n bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Yr unigolyn cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn NatCen yw Nilufer Rahim:

Cyfeiriad e-bost: Nilufer.Rahim@natcen.ac.uk
Rhif ffôn: 0207 549 9545

Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y UK Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UK GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Mae eich manylion cyswllt wedi'u rhoi i NatCen gan gyflenwr masnachol – UK Changes. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dal eich manylion cyswllt.

Nid yw'r ymchwil yn ei gwneud yn ofynnol casglu data personol  oddi wrthych.

Yn ystod y cyfweliad cychwynnol byddwn yn gofyn i chi a ydych yn barod i gymryd rhan mewn cyfweliadau dilynol. Os byddwch yn cytuno, bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw ar gyfer cyfweliadau yn y dyfodol. Bydd eich manylion yn cael eu dileu os nad ydych yn dymuno cymryd rhan mewn cyfweliadau yn y dyfodol.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael negeseuon atgoffa yna byddwch cystal ag ateb e-bost y gwahoddiad neu ddefnyddio'r rhif ffôn a ddarperir ac fe gaiff eich manylion eu dileu.

Caiff cyfweliadau eu cofnodi a'u trawsysgrifio; caiff unrhyw ddata personol ei ddileu o drawsgrifiadau.  Pan fydd y trawsysgrifio wedi'i gwblhau, caiff y recordiad sain gwreiddiol ei ddileu.

Os byddwch yn dewis darparu data personol fel rhan o'r ymchwil byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch hunaniaeth â'r ymatebion hynny. Os bydd gennych ymholiad neu gŵyn, ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais hwnnw cyn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, yw sail gyfreithiol prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn.

Mae eich cyfranogiad yn gyfan gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil er enghraifft i:

  • Lywio'r adolygiad ynghylch a yw lefel yr isafbris uned am alcohol yn briodol.
  • Asesu effaith cyflwyno isafbris am alcohol.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae'r wybodaeth bersonol a roddir i NatCen yn cael ei storio bob amser ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cael mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd NatCen yn defnyddio'r data hwn.  Mae gan NatCen nod ardystio Cyber Essentials.  

Mae gan NatCen weithdrefnau i fynd i'r afael ag achosion lle ceir amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd NatCen yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod ichi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r arolwg hwn yn cael ei gadw mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd NatCen yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw gyfranogwyr unigol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd NatCen yn dal data personol yn ystod cyfnod y contract, a bydd unrhyw ddata personol nad yw eisoes wedi cael ei dynnu yn ystod trawsysgrifio yn cael ei ddileu gan NatCen dri mis wedi i'r contract ddod i ben. Bydd hynny'n cynnwys eich manylion cyswllt. Bydd  NatCen yn rhoi fersiwn ddienw o'r data i Lywodraeth Cymru, na fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellir eich adnabod ohoni.

Hawliau'r Unigolyn

O dan y UK GDPR mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r prosiect hwn:

  • I gael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
  • I'w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw;
  • I wrthwynebu neu gyfyngu unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol)
  • I'ch data gael ei 'ddileu' (mewn amgylchiadau penodol)
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.gov.uk

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio'r UK Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (UK GDPR), cysylltwch â:

Enw: Janine Hale
Cyfeiriad e-bost: Janine.hale@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 6539

Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru