Yr Arolwg Teithio

Mae’r arolwg teithio’n cefnogi arweinwyr dinasoedd a threfi i ddeall a gwella arferion cerdded, mynd ar olwynion a beicio ar draws y DU ac Iwerddon.

Click here to read this page in English.

Edrychwch ar y llythyr a gawsoch i wneud yn siŵr eich bod yn edrych ar yr arolwg cywir. Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am Yr Arolwg Teithio, a gomisiynwyd gan Sustrans. Gallwch gadarnhau bod yr arolwg yn gywir drwy edrych am y logo Sustrans cywir ar dudalen flaen eich llythyr ac edrych am 'P19901' yn y troednodyn ar y dudalen ôl.

Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth am yr Arolwg Teithio Cenedlaethol a gomisiynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth, dilynwch y ddolen hon

Gair am yr astudiaeth

Mae’r Arolwg Teithio’n gyfres o astudiaethau ymchwil a gomisiynwyd gan Sustrans mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan.

Mae’r arolwg yn archwilio datblygiad cerdded, mynd ar olwynion a beicio mewn dinasoedd, gan gynnwys isadeiledd, ymddygiad teithio, effaith cerdded, mynd ar olwynion a beicio, a mentrau newydd. Bydd Sustrans ac awdurdodau lleol yn defnyddio’r wybodaeth i wella isadeiledd, i ddeall ymddygiad teithio ac i wella’r teithio o amgylch eich ardal.

Sut allaf i gymryd rhan?

Rydym wedi gwahodd mwy na 110,000 o aelwydydd ledled y Deyrnas Unedig i gymryd rhan yn yr arolwg. Os cafodd eich aelwyd chi wahoddiad i gymryd rhan, byddwch wedi derbyn llythyr yn y post. Yn anffodus, os nad ydych wedi derbyn llythyr, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.

Os ydych wedi derbyn llythyr ac rydych eisiau cymryd rhan, cliciwch ar ddolen yr arolwg isod a rhoi un o'r codau mynediad unigryw sydd wedi eu printio ar eich llythyr: 

survey.natcen.ac.uk/travel

NEU sganiwch un o'r codau QR i gael eich mewngofnodi'n uniongyrchol i'r arolwg.

Pam gefais i fy newis i gymryd rhan?

Os ydych wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan, y rheswm am hyn yw bod eich cartref wedi ei ddethol o’r rhestr o gyfeiriadau preswyl sydd ar gael yn gyhoeddus gan y Post Brenhinol yn un o’r ‘Dinasoedd’ sydd wedi eu dewis ar gyfer yr arolwg teithio. Rydym wedi dewis cyfeiriadau i sicrhau ein bod yn cael sylwadau sy’n cynrychioli bywydau’r gwahanol grwpiau o bobl sy’n byw yn yr ardal. Lluniwyd yr Arolwg Teithio i alluogi i ni glywed barn y bobl i gyd, p’un a ydyn nhw’n cerdded, yn mynd ar olwynion a/neu yn beicio ai peidio, yn y ‘Dinasoedd’ sy’n cymryd rhan.

Beth fydd yn rhaid i mi ei wneud os byddaf yn cymryd rhan?

Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan mewn holiadur ar-lein. Bydd hwn yn cymryd tua 15 munud i’w gwblhau.

Bydd yr holiadur yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau gyda’r ffocws pennaf ar deithio, yn arbennig cerdded, mynd ar olwynion, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus yn eich ardal chi, yr isadeiledd i’w gefnogi, eich ymddygiad teithio a chwestiynau eraill, e.e. am eich statws gweithio. Byddwch yn cymryd rhan yn gwbl wirfoddol a gallwch anwybyddu unrhyw gwestiynau nad ydych eisiau eu hateb.

Gallwch weld y cyfarwyddiadau llawn am gymryd rhan yn y llythyr a anfonwyd atoch chi.

Pwy sy’n gwneud yr ymchwil?

Mae Sustrans, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan, wedi comisiynu’r Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i wneud yr astudiaeth ar eu rhan. NatCen yw asiantaeth ymchwil cymdeithasol, annibynnol fwyaf Prydain. Ers bron i 50 mlynedd, mae wedi gweithio gydag elusennau a’r llywodraeth i ganfod beth mae pobl yn ei feddwl go iawn am y pynciau mawr. Mae NatCen yn annibynnol ar holl adrannau’r llywodraeth a’r holl bleidiau gwleidyddol.

Beth wnewch chi â’r wybodaeth a roddaf?

Bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd NatCen yn tynnu enwau a chyfeiriadau allan cyn rhoi’r wybodaeth i Sustrans. O’r wybodaeth y mae Sustrans yn ei dal, efallai y bydd hi’n bosibl adnabod rhai ymatebwyr os oes ganddynt gyfuniad unigryw o nodweddion e.e. yr unig berson o oedran, rhywedd ac ethnigrwydd penodol o fewn y dinasoedd sy’n cymryd rhan. Bydd Sustrans yn rhannu’r wybodaeth gyda’r awdurdodau partner sydd wedi eu henwi ar y llythyr sy’n eich gwahodd i gymryd rhan, ac efallai y byddent yn rhannu data di-enw gydag ymchwilwyr eraill, fel prifysgolion, os gofynnir am hynny.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyflwyno fel canrannau ac ystadegau mewn adroddiadau sydd ar gael yn gyhoeddus. Ni fydd unigolion wedi eu henwi, ac ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion marchnata.

A fyddaf yn derbyn taleb am gymryd rhan?

Caniatewch oddeutu 1 wythnos i dderbyn eich taleb os ydych wedi cwblhau'r holiadur ar-lein. Gallai'r talebion fynd i'ch mewnflwch e-bost sothach felly edrychwch yno os nad ydych wedi  derbyn eich taleb o fewn 1 wythnos. Bydd talebau post yn cael eu hanfon at y rhai sy'n cwblhau'r holiadur papur. Gall y rhain gymryd hyd at 4 wythnos i gyrraedd.

Nid yw fy nghod taleb yn gweithio

Os ydych wedi derbyn eich taleb mewn e-bost, rydym yn argymell eich bod yn copïo ac yn gludo cod y daleb i'r wefan Love2shop i sicrhau nad yw'n cael ei gamdeipio. 

Os ydych yn nodi'r cod drwy deipio, cofiwch nad yw'r codau taleb yn cynnwys y llythyren 'O' ond gallent gynnwys y rhif '0'.

A fydd fy atebion yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd eich atebion yn dylanwadu’n uniongyrchol ar benderfyniadau am gludiant ac am bolisi cerdded, mynd ar olwynion a beicio yn eich awdurdod lleol a byddent yn dylanwadu ar waith Sustrans, yn cynnwys adroddiad y Mynegai Cerdded a Beicio. Byddent yn defnyddio eich atebion law yn llaw â gwybodaeth arall wrth wneud penderfyniadau ac wrth wario arian cyhoeddus, er mwyn cefnogi trigolion fel chi.

Cynaliadwyedd

Yn NatCen, ein nod yw cyfateb ein cenhadaeth a'n gwerthoedd gyda gweledigaeth Sustrans am gymdeithas "lle mae'r ffordd yr ydym yn teithio'n creu lleoedd mwy iach a bywydau hapusach  bawb". I wneud hyn, mae NatCen yn gobeithio lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd drwy gyfrwng yr Arolwg Teithio drwy:

  • Ailddefnyddio neu ailgylchu 100% o'n papur gwastraff a'r deunydddiau pacio sy'n dod i mewn
  • Defnyddio inc bioddiraddadwy ar ein holl ohebiaeth â chi
  • Sicrhau bod ein  cwmni argraffu'n gwahanu gwastraff er mwyn cael y trefniadau ailgylchu gorau ac yn anfon 99% o'u gwastraff i'w ailgylchu neu i adfer ynni
  • Darnio ac ailgylchu pob holiadur cyflawn ar ôl eu defnyddio

I'n helpu i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, rydym yn eich annog i gymryd rhan ar-lein lle bo modd. Fodd bynnag, rydym yn gwerthfawrogi pob cyfraniad, waeth sut yr ydych yn cymryd rhan. Byddai hefyd yn golygu llawer iawn i ni pe baech chi'n chwarae eich rhan i leihau effaith yr Arolwg Teithio ar yr amgylchedd drwy ailgylchu pob deunydd printiedig yr ydych yn ei dderbyn gennym.

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at travel.survey@natcen.ac.uk neu ffoniwch am ddim ar 0808 168 1356.

Hysbysiad preifatrwydd

Yn NatCen, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd ac i fod yn agored am y ffordd y casglwn ac y defnyddiwn ddata personol. Byddwn yn trin eich gwybodaeth yn gwbl gyfrinachol o dan y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol.

Gwybodaeth am gymryd rhan a hysbysiad preifatrwydd – Cymraeg

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.