Yr Arolwg Teithio: Hysbysiad preifatrwydd
Yn NatCen, rydym yn ymroddedig i ddiogelu eich preifatrwydd ac i fod yn agored am y
ffordd yr ydym yn casglu ac yn defnyddio data personol. Data personol yw gwybodaeth
sy’n dangos pwy ydych chi, yn wahanol i bobl eraill – er enghraifft eich enw, cyfeiriad
post a chyfeiriad e-bost.
Byddwn yn trin eich gwybodaeth yn gwbl gyfrinachol o dan y ddeddfwriaeth gyfredol
am ddiogelu data.
Pam mae data personol yn cael ei gasglu?
Bydd eich ymateb yn helpu Sustrans a phartneriaid yn y llywodraeth a’r cynghorau lleol
i ddeall ymddygiad teithio pobl, i wneud penderfyniadau polisi ac i gyfiawnhau
buddsoddiad yn eich ardal.
Y sail gyfreithiol am brosesu’r data yw diddordeb dilys, am fod gan Sustrans a
phartneriaid yn y llywodraeth a’r cynghorau lleol ddiddordeb yn eich barn am deithio
lleol.
Bydd Sustrans, fel rheolydd y data, yn sicrhau mai dim ond at ddibenion ymchwil ac
ystadegol y bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio.
Ni fyddwch byth yn derbyn unrhyw alwadau gwerthu neu farchnata o ganlyniad i
gymryd rhan yn yr arolwg.
Pa ddata personol fydd yn cael ei gasglu?
Nid yw’r arolwg yw bwriadu casglu data personol, ond efallai y bydd cyfuniad o
ymatebion unigryw yn galluogi i chi gael eich adnabod.
Mae’r arolwg yn cynnwys cwestiynau sy’n gofyn am ddata mewn categori arbennig, yn
benodol eich ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol ac anabledd, sy’n fwy sensitif ac sydd
felly angen ei ddiogelu fwy.
Sut mae data personol yn cael ei gasglu?
Dewisir cartrefi i gymryd rhan yn yr arolwg o restr o gyfeiriadau preswyl sydd ar gael yn
gyhoeddus gan y Post Brenhinol.
Fe’ch gwahoddir i gwblhau’r arolwg ar-lein neu ar bapur. Byddwch yn cymryd rhan yn
gwbl wirfoddol a gallwch anwybyddu unrhyw gwestiynau nad ydych eisiau eu hateb.
Ymhle fydd fy nata personol yn cael ei storio?
Bydd eich data wedi ei storio o fewn y Deyrnas Unedig a’r Ardal Economaidd
Ewropeaidd.
Gyda phwy fydd fy nata personol yn cael ei rannu?
Bydd rhai elfennau o’r gwaith o brosesu’r arolwg, fel argraffu a phostio, yn cael eu
cyflawni drwy drefniadau is-gontract. Daw pob is-gontractwr sy’n gweithio i NatCen o’n
Rhestr o Gyflenwyr Cymeradwy. Cyflenwyr yw’r rhain yr ydym wedi gwneud archwiliad
o’u cefndir ac sydd â chytundeb a chontractau wedi’u llofnodi yn eu lle yn barod, sy’n
cael eu hadnewyddu bob 12 mis.
Ni fydd Sustrans, fel y rheolwr data, yn rhannu data’r arolwg gydag unrhyw un heblaw’r
partneriaid llywodraethol a chynghorau lleol perthnasol, ac eraill at ddibenion ymchwil.
Am fod potensial i ddata personol ymddangos yn nata’r arolwg, bydd hwn wedi ei
ddiogelu bob amser gan gytundeb rhannu data.
Am faint o amser fyddwch chi’n cadw fy nata personol?
Bydd NatCen yn cadw eich data personol tan 31ain Rhagfyr 2026, ac yna bydd yn cael
ei ddinistrio.
Bydd Sustrans yn cadw’r data dienw o’r arolwg am gyfnod amhenodol at ddibenion
ymchwil, oherwydd bydd data’r arolwg yn parhau i fod yn ddefnyddiol i ymchwilwyr a
gwneuthurwyr polisïau.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn am gael mynediad at eich data, i’w addasu os yw’n
anghywir, neu i ofyn iddo gael ei ddileu. Cewch hefyd wrthwynebu prosesu eich data
neu cewch ofyn i ni gyfyngu ar y prosesu.
Ni fydd hyn yn bosibl unwaith y bydd y data wedi ei wneud yn ddienw.
Gallwch ganfod rhagor am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth:
https://ico.org.uk/your-data-matters
Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd yr ydym yn defnyddio eich data personol,
gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data NatCen ar:
E-bost: dpo@natcen.ac.uk
Ffôn: 020 7250 1866
Post: 35 Northampton Square, London EC1V 0AX
Gallwch hefyd gysylltu â Rheolwr Diogelu Data Sustrans ar:
E-bost: dataprotection@sustrans.org.uk
Ffôn: 0117 926 8893
Post: Sustrans, 2 Cathedral Square, College Green, Bristol, BS1 5DD
Darllenwch bolisi diogelu data Sustrans ar www.sustrans.org.uk/privacy
Cwynion
Os ydych yn credu nad ydym wedi cydymffurfio â’ch hawliau diogelu data, gallwch
gysylltu â ni ar dpo@natcen.ac.uk. Mae gennych hefyd yr hawl i wneud cŵyn i
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y fan yma:
Information Commissioner's Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn - 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/concerns