National Survey for Wales

The National Survey for Wales is your chance to share your views on the NHS, council services, your local area and more.

Why we are carrying out the survey (English)

The National Survey for Wales is your chance to share your views on the NHS, council services, your local area and more. The information collected is used to help public organisations in Wales develop policies and decide how services are delivered. Your answers will help improve services in your area.

The National Centre for Social Research (NatCen) is carrying out the survey on behalf of

  • Welsh Government
  • Sport Wales
  • Natural Resources Wales
  • Arts Council of Wales

The survey covers a wide range of topics such as:

  • health and the NHS
  • local council services and your local area
  • housing
  • the environment
  • sports and arts

Taking part in the survey

The online survey takes about 30 minutes to complete. There are no right or wrong answers, and you do not need any special knowledge. You can skip any questions that you are not comfortable answering.

The survey should be completed by any two people aged 16 or over living in your household. If there is only one person aged 16 or over living there, then only they should take part.

You can complete the survey in Welsh or English. If you would like to take part in another language, you could ask a family member or friend to translate for you.

It is okay to ask a friend or relative to help you complete the survey, but the answers should only come from the person who has been chosen to take part.

If you would prefer to take part in the survey another way or need us to arrange an interpreter, you can contact us.

Taking part is voluntary and we hope that you can help us make sure that all kinds of people across Wales are represented in the results. If you choose not to take part, we cannot replace you with anyone else. If you do not wish to take part you can let us know by contacting us.

How participants are selected

Addresses are chosen at random from the Royal Mail’s publicly available list of addresses in Wales.

We write to the selected addresses with instructions on how to take part. If we don’t hear back from an address, we will write to them again to let them know about other ways of taking part.

Confidentiality

We keep all answers and personal information confidential and in accordance with the Data Protection Act. People taking part in the survey are not identifiable in the survey results and answers are used only for research purposes.

Responses to the survey will not be used for marketing or commercial purposes.

For more information about how we use the information collected, read our privacy notice.

Contact us

If you have any questions about the National Survey for Wales you can contact us by:

Pam rydym yn cynnal yr arolwg (Cymraeg)

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn gyfle ichi rannu eich barn am y GIG, gwasanaethau cynghorau, eich ardal leol a mwy. Mae'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu'n cael ei defnyddio i helpu sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut i ddarparu gwasanaethau. Bydd eich atebion yn helpu i wella gwasanaethau yn eich ardal.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen), ar ran:

  • Llywodraeth Cymru
  • Chwaraeon Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae'r arolwg yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, fel:

  • iechyd a'r GIG
  • gwasanaethau cynghorau lleol a'ch ardal leol
  • tai
  • yr amgylchedd
  • chwaraeon a'r celfyddydau

Cymryd rhan yn yr arolwg

Mae'r arolwg ar-lein yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau. Nid oes atebion cywir nac anghywir, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth arbennig arnoch. Gallwch anwybyddu unrhyw gwestiynau nad ydych yn gyfforddus yn eu hateb.

Dylai'r arolwg gael ei gwblhau gan unrhyw ddau berson 16 oed neu hŷn sy'n byw yn eich cartref. Os dim ond un person 16 oed neu hŷn sy'n byw yno, dim ond y person hwnnw ddylai gymryd rhan.

Gallwch gwblhau'r arolwg yn Gymraeg neu'n Saesneg. Os hoffech gymryd rhan mewn iaith arall, gallech ofyn i aelod o'r teulu neu ffrind gyfieithu ichi.

Mae'n iawn gofyn i ffrind neu berthynas eich helpu i gwblhau'r arolwg, ond dylai'r atebion ddod gan y person sydd wedi'i ddewis i gymryd rhan yn unig.

Os byddai'n well gennych gymryd rhan yn yr arolwg mewn ffordd arall neu os oes angen inni drefnu cyfieithydd, gallwch gysylltu â ni.

Eich dewis chi yw cymryd rhan. Rydym yn gobeithio y gallwch ein helpu i sicrhau bod pob math o bobl o bob cwr o Gymru yn cael eu cynrychioli yn y canlyniadau. Os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan, nid oes modd i unrhyw un arall gymryd eich lle. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan, gallwch roi gwybod inni drwy gysylltu â ni.

Sut mae cyfranogwyr yn cael eu dewis

Mae cyfeiriadau yn cael eu dewis ar hap o restr gyhoeddus y Post Brenhinol o gyfeiriadau yng Nghymru.

Rydym yn ysgrifennu at y cyfeiriadau sydd wedi'u dewis gyda chyfarwyddiadau ar sut i gymryd rhan. Os nad ydym yn clywed yn ôl gan gyfeiriadau, byddwn yn ysgrifennu atyn nhw eto i roi gwybod iddyn nhw am ffyrdd eraill o gymryd rhan.

Cyfrinachedd

Rydym yn cadw'r holl atebion a gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol ac yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data. Nid oes modd adnabod pobl sy'n cymryd rhan drwy ganlyniadau'r arolwg a dim ond at ddibenion ymchwil y mae'r atebion yn cael eu defnyddio.

Ni fydd ymatebion i'r arolwg yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata na masnachol.

I gael gwybod mwy am sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Arolwg Cenedlaethol Cymru, gallwch gysylltu â ni drwy: