NatCen Opinion Panel: Cwestiynau Cyffredin

Beth yw NatCen Opinion Panel?

Mae NatCen Opinion Panel yn astudiaeth sy’n cynnwys miloedd o bobl yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n rhannu eu profiadau a’u barn am amrywiaeth o wahanol bynciau. Y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) sy’n rheoli’r Panel, a’r ganolfan hon yw asiantaeth ymchwil cymdeithasol annibynnol fwyaf Prydain. I gael rhagor o fanylion ewch i: natcen.ac.uk/OpinionPanel.

Pwy sy’n ariannu NatCen Opinion Panel?

Mae ymchwil ar Banel Barn NatCen yn cael ei ariannu gan adrannau’r llywodraeth, elusennau, prifysgolion a sefydliadau eraill, a’i nod yw deall beth mae’r cyhoedd yn ei feddwl mewn gwirionedd ac archwilio bywyd ym Mhrydain heddiw.

Sut gawsoch chi fy manylion cysylltu?

Rydych wedi cymryd rhan mewn astudiaeth gan NatCen yn y gorffennol. Efallai mai arolwg Agweddau Cymdeithasol Prydain neu’r Alban ydoedd, neu’r Astudiaeth Bywyd yng Ngogledd Iwerddon, neu Astudiaeth Diogelu’r Prynwr. Bryd hynny gofynnwyd i chi a fyddai’n iawn i ni gysylltu â chi ynglŷn â gwaith ymchwil yn y dyfodol ac ar yr adeg honno, rhoesoch ychydig o fanylion cysylltu i ni.

Beth sy’n rhaid i mi ei wneud os byddaf yn cymryd rhan?

Byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn holiaduron byr sy’n para tua 15 munud bob cwpwl o fisoedd. Gallwch gymryd rhan ar-lein neu dros y ffôn, Byddwn yn gofyn cwestiynau i chi am amrywiaeth o bynciau, o dai ac addysg, i iechyd a hapusrwydd, neu bolisi’r llywodraeth a’r amgylchedd.

Oes raid i mi gymryd rhan ymhob holiadur?

Eich dewis chi yw cymryd rhan. Os byddai’n well gennych beidio cymryd rhan yn un o’n harolygon, anwybyddwch ein negeseuon neu gadewch i ni wybod. Os hoffech adael y Panel, cysylltwch er mwyn i ni allu diweddaru ein cofnodion.

A fyddaf i’n derbyn taleb am gymryd rhan?

Bydd pob gwahoddiad yn esbonio’r hyn y byddwch chi’n ei dderbyn am gymryd rhan. Byddwch yn derbyn taleb siopa i ddiolch i chi am gyfranogi yn y rhan fwyaf o holiaduron. Gallwch wario’r rhain mewn amrywiaeth o siopau stryd fawr, yn cynnwys Argos, Boots, Sainsbury’s a TK Maxx.

Beth wnewch chi gyda’r wybodaeth a roddaf?

Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd y wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio. Bydd y mwyafrif o’r canlyniadau’n ymddangos fel ystadegau ac ni fyddwn yn nodi eich barn unigol heb ofyn am eich caniatâd. Weithiau byddwn yn dadansoddi eich atebion ynghyd ag atebion a roesoch i holiaduron blaenorol i’n helpu ni i ddeall pethau fel, sut mae barn pobl yn newid dros amser.

Sut ydych chi’n diogelu fy mhreifatrwydd?

Bydd NatCen yn dal eich gwybodaeth i gyd nes na fydd ei hangen bellach, a hynny yn unol â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data bresennol. O dan y ddeddfwriaeth hon, NatCen yw’r ‘Rheolydd Data’ ac rydym yn dal eich gwybodaeth ar sail ‘Diddordeb Cyfreithlon’.

Os byddwch chi eisiau dysgu rhagor am y ffordd yr ydym yn diogelu eich preifatrwydd, eich data a’ch hawliau gallwch ddarllen ein polisi diogelu data yn natcen.ac.uk/OpinionPanel/Privacy neu cysylltwch â Swyddog Diogelu Data NatCen mewn e-bost: dpo@natcen.ac.uk.

Sut ydw i’n cysylltu â chi?

I gysylltu â ni, gallwch anfon e-bost atom yn OpinionPanel@natcen.ac.uk neu ffoniwch ni am ddim ar 0800 652 4569.