Eich Hysbysiad Preifatrwydd a’ch Gwaith

Yn unol â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU, mae rhai pethau y mae angen i ni roi gwybod i chi, fel person sy’n cymryd rhan mewn ymchwil, am sut y caiff eich data ei brosesu. Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn, esboniwn y sail gyfreithiol dros brosesu data, pwy fydd â mynediad i’ch data personol, sut caiff eich data ei ddefnyddio, ei storio a’i ddileu a phwy gallwch chi gysylltu â nhw gydag ymholiad neu gŵyn.

Beth yw’r sail gyfreithiol dros brosesu fy nata?

Yr Athro Alan Felstead ym Mhrifysgol Caerdydd sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros yr astudiaeth hon. Prifysgol Caerdydd felly yw’r rheolydd data ar gyfer y prosiect hwn. Mae hyn yn golygu eu bod yn gyfrifol am benderfynu’r pwrpas a’r sail gyfreithiol dros brosesu data. Y sail gyfreithiol am brosesu data yw “tasg gyhoeddus”.  Mae cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol.

I gysylltu â NatCen gydag unrhyw gwestiynau am yr ymchwil, e-bostiwch ni yn ses2023@natcen.ac.uk neu ffoniwch 0800 652 2704.

Pwy fydd â mynediad i fy nata personol?

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer yr astudiaeth hon a bydd ganddi fynediad i’r manylion cysylltu a ddarparwch a’r atebion a rowch yn ystod y cyfweliad.

Caiff eich cyfeiriad ei roi i’n darparwr gwasanaeth argraffu (AE Simmons http://www.simmonsprinters.com). Mae’r sefydliad hwn ar restr cyflenwyr cymeradwy NatCen ac yn cydymffurfio â holl bolisïau diogelu gwybodaeth NatCen yn ogystal ag unrhyw ddeddfwriaeth diogelu data.

Sut bydd fy nata yn cael ei drin?

Caiff unrhyw fanylion personol eu cadw’n gyfrinachol a’u dal yn ddiogel gan NatCen. Ni fydd yr wybodaeth a rowch yn cael ei defnyddio at ddibenion marchnata ac ni fydd eich manylion personol yn cael eu pasio ymlaen i Brifysgol Caerdydd nac unrhyw un o’r sefydliadau ymchwil eraill sy’n rhan o’r prosiect.

Ar ddiwedd yr arolwg, gofynnir i chi a fyddech yn hapus i NatCen gadw’ch manylion cysylltu er mwyn i’r tîm ymchwil (neu rywun sy’n gweithio ar eu rhan) allu cysylltu â chi ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. Os rhowch eich caniatâd bydd eich manylion cysylltu yn cael eu cadw am 36 mis. Os na rowch ganiatâd bydd eich manylion cysylltu’n cael eu dileu’n ddiogel ar ôl i waith maes yr astudiaeth gael ei gwblhau. Bydd y data arall a roesoch, gan gynnwys eich atebion i’r arolwg, yn cael ei gadw am gyfnod amhenodol er mwyn iddo allu cael ei ddefnyddio am ymchwil.

Bydd canfyddiadau o’r astudiaeth yn cael eu cofnodi a’u cyhoeddi mewn adroddiadau ymchwil.  Bydd yr adroddiadau yn cyfuno’ch data chi â data cyfranogwyr eraill yn yr ymchwil at ddibenion dadansoddiad ystadegol ac ni fyddant yn cynnwys eich enw nac unrhyw wybodaeth arall a allai eich adnabod chi neu’ch aelwyd.

Bydd data o’r arolwg yn cael ei adneuo gyda Gwasanaeth Data’r DU a bydd ar gael i ddefnyddwyr anfasnachol at ddibenion ymchwil.  Bydd enwau’n cael eu tynnu o’r set ddata sy’n golygu na fydd yn bosibl i ymchwilwyr eich adnabod chi na’ch aelwyd o’r data sy’n cael ei ddarparu.  Bydd ail fersiwn o’r set ddata – na fydd yn cynnwys unrhyw fanylion personol amdanoch ond y gallai fod yn bosibl eich adnabod chi trwy’r cyfuniad unigryw o atebion a roesoch chi yn ystod yr arolwg – ar gael hefyd. Dim ond ymchwilwyr cymeradwy fydd â mynediad i’r set ddata hon, drwy wneud cais ac at ddibenion penodol.

Pwy allaf gysylltu â nhw gydag ymholiad neu gŵyn?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut y caiff eich data ei ddefnyddio, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Prifysgol Caerdydd:

Enw:

Andrew Lane

Cyfeiriad:

Swyddog Diogelu Data

Cydymffurfio a Risg, Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol

Prifysgol Caerdydd

Tŷ McKenzie

30-36 Heol Casnewydd

Caerdydd

CF24 0DE
 

E-bost:

inforequest@cardiff.ac.uk

O dan GDPR, mae gennych chi hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk.

Mae gennych chi’r hawl i ofyn am fynediad i’ch data, i’w newid os yw’n anghywir, neu i ofyn iddo gael ei ddileu. Hefyd gallwch wrthwynebu i brosesu’ch data neu ofyn i ni gyfyngu’r gwaith prosesu.

Ni fydd hyn yn bosibl ar ôl i’r data gael ei wneud yn ddienw.