Pwy yw NatCen?
Mae NatCen wedi bod yn cyflawni ymchwil cymdeithasol o ansawdd uchel ers dros 50 mlynedd. Rydym yn sefydliad dielw, yn annibynnol o unrhyw adrannau llywodraeth a phleidiau gwleidyddol.
Rydym yn cael ein comisiynu gan lywodraeth ac elusennau i ddatgelu barnau gwirioneddol pobl ym Mhrydain heddiw. Defnyddir yr hyn a ddysgwn i hysbysu polisi ac i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar draws y wlad.
Rydyn ni'n elusen ac mae’r holl wybodaeth a gesglir gennym ar gael i'r cyhoedd. Felly mae nid yn unig yn helpu ein cleientiaid, ond mae'n cael ei defnyddio gan sefydliadau eraill sy'n ceisio gwella bywyd yn y Deyrnas Unedig.